ENGLISH VERSION BELOW
Mae'n dda gennym lansio TestunRhydd - pecyn cymorth dwyieithog ar-lein am ddim ar gyfer dadansoddi a delweddu data testun rhydd (o arolygon, holiaduron etc) yn Gymraeg a Saesneg. Mae TestunRhydd yn defnyddio rhai o’r gwasanaethau a’r methodolegau corpws o CorCenCC ac ACC (Crynhoi Testunau Cymraeg yn Awtomatig), ac yn eu hailbecynnu fel bod modd i gynulleidfaoedd a grwpiau o ddefnyddwyr newydd ddadansoddi eu data adborth eu hunain. Wedi'i gynllunio ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, Cadw, CBAC, a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae TestunRhydd ar gael i unrhyw un mewn unrhyw sector yng Nghymru a'r tu hwnt. Mae TestunRhydd:
* yn dangos a yw eich data yn gadarnhaol a/neu'n negyddol (dadansoddi sentiment) ac mae modd delweddu'r canlyniadau a'u lawrlwytho. * yn gadael i chi archwilio/delweddu geiriau, ymadroddion a themâu cyffredin yn eich data (mewn tablau, cymylau geiriau etc.). * yn gadael i chi grynhoi data testun-rhydd, ac archwilio'r defnydd o eiriau a'u perthnasoedd. Mae TestunRhydd ar gael fel cod agored gyda thrwydded Apache 2.0 (https://github.com/UCREL/FreeTxt-Flask), a thrwy ryngwyneb demo gwe lletyol yn: www.freetxt.apphttp://www.freetxt.app/. Mae’n ymgorffori offer cod agored eraill o’n prosiectau blaenorol fel CyTag (tagiwr rhannau ymadrodd Cymraeg), crynodebwr Cymraeg, a PyMUSAS (ar gyfer Cymraeg a Saesneg), gweler https://www.freetxt.app/about am fwy o fanylion. Datblygwyd TestunRhydd fel rhan o brosiect ymchwil ar y cyd a ariannwyd gan yr AHRC 'TestunRhydd yn cefnogi dadansoddi data arolygon a holiaduron testun-rhydd dwyieithog' gyda chydweithwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerhirfryn (Rhif y Grant AH/W004844/1). Roedd y tîm yn cynnwys PY - Dawn Knight; CY - Paul Rayson, Mo El-Haj; Cydymeithion Ymchwil - Ignatius Ezeani, Nouran Khallaf a Steve Morris. Roedd Grŵp Ymgynghorol y Prosiect yn cynnwys cynrychiolwyr o: Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Cadw, Amgueddfa Cymru, CBAC a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
We’re excited to launch FreeTxt – a free bilingual online toolkit for analysing and visualising free-text data (from surveys, questionnaires etc.) in English and Welsh. FreeTxt draws on some of the corpus-based utilities and methodologies from CorCenCC and ACC (Welsh Automatic Text Summarisation), repackaging these to enable new audiences and user-groups to analyse their own feedback data. Co-designed in collaboration with National Trust Wales, Museum Wales, Cadw, WJEC, and National Centre for Learning Welsh, FreeTxt is accessible to anyone in any sector in Wales and beyond. FreeTxt:
* indicates if your data is positive and/or negative (sentiment analysis) and provides downloadable visualisations of results. * allows you to explore/visualise common words, phrases and themes in your data (in tables, word clouds etc.). * enables you to summarise free-text data, and examine word use and relationships. FreeTxt is available open source with an Apache 2.0 licence (https://github.com/UCREL/FreeTxt-Flask), and via a hosted web demo interface at: www.freetxt.apphttp://www.freetxt.app/. It incorporates other open source tools from our previous projects such as CyTag (Welsh POS tagger), a Welsh summariser, and PyMUSAS (for English and Welsh), see https://www.freetxt.app/about for more details. FreeTxt was developed as part of an AHRC funded collaborative 'FreeTxt supporting bilingual free-text survey and questionnaire data analysis' research project involving colleagues from Cardiff University and Lancaster University (Grant Number AH/W004844/1). The team included PI - Dawn Knight; CIs - Paul Rayson, Mo El-Haj; RAs - Ignatius Ezeani, Nouran Khallaf and Steve Morris. The Project Advisory Group included representatives from: National Trust Wales, Cadw, Museum Wales, CBAC | WJEC and National Centre for Learning Welsh.
-- Paul Rayson Director of UCREL and Professor of Natural Language Processing SCC Data Theme Lead School of Computing and Communications, InfoLab21, Lancaster University, Lancaster, LA1 4WA, UK. Web: https://www.research.lancs.ac.uk/portal/en/people/Paul-Rayson/ Tel: +44 1524 510357 Contact me on Teamshttps://teams.microsoft.com/l/chat/0/0?users=p.rayson@lancaster.ac.uk